Canlyniadau Chwilio - Agustini, Delmira
Delmira Agustini
Bardd o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Delmira Agustini (24 Hydref 1886 – 6 Gorffennaf 1914) sy'n nodedig am ei barddoniaeth ramantus yn nechrau'r 20g.Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái. Er nad oedd yn aelod weithgar o fudiadau deallusol y wlad, cysylltir Agustini â ''La Generación del 900'', cenhedlaeth o lenorion o Wrwgwái yn nechrau'r 20g oedd yn cynnwys Julio Herrera y Reissig, María Eugenia Vaz Ferreira, Alberto Zum Felde, ac Angel Falco.
Yn ystod ei gyrfa lenyddol fer, cyhoeddodd ''El libro blanco (Frágil)'' (1907), ''Cantos de la mañana'' (1910), a ''Los cálices vacíos'' (1913). Dylanwadwyd ar ei cherddi cynnar, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau llenyddol, gan ''modernismo'' llên America Ladin. Mae ei gwaith diweddarach yn enghraifft gynnar o'r themâu erotig a thanbaid sydd yn nodweddiadol o feirdd benywaidd Sbaeneg yr 20g.
Priododd Enrique Job Reyes yn 1913, a chawsant ysgariad ar ôl rhyw 10 mis. Cafodd Agustini ei llofruddio yn 27 oed gan Reyes. Wedi ei marwolaeth, cyhoeddwyd ''Obras completas'' (1924), sy'n cynnwys y cylch anorffenedig o gerddi ''El rosarío del Eros''. Darparwyd gan Wikipedia