Canlyniadau Chwilio - Gorgias
Gorgias
Athronydd, gwleidydd, a rhethregwr Groegaidd hynafol oedd Gorgias (tua 483 – 375 CC) a oedd yn un o do cyntaf y Soffyddion. Edrychid arno fel un o'r dysgedigion galluocaf yn perthyn i'r oes yr oedd llenyddiaeth Groeg yn ei gogoniant pennaf.Ganed yn Leontini, Sisili. Cyhoeddodd lyfr yn dwyn y teitl ''Ar Bwnc Natur neu'r Anfodol'', yn yr hwn yr amcanai ddangos yn: # Nad oes dim yn bodoli. # Os oes rhywbeth yn bodoli, nis gellir ei wybod. # Os oes rhywbeth yn bodoli ac y gellir ei wybod, nid ydyw yn bosibl ei draethu a'i fynegi i eraill.
Yn ganlynol i gyhoeddiad y llyfr uchod, troes Gorgias ei feddwl yn gwbl oll i astudio areitheg, ac yn hyn enillodd anrhydedd mawr. Meddai Cicero taw Gorgias oedd y cyntaf i draddodi anerchiadau cyhoeddus yn ddifyfyr, ar unrhyw destun. Roedd ei arddangosiadau o'r ddawn areithyddol, pa fodd bynnag, yn fwy nodedig am goethder ac addurniant barddonol yr iaith, a ffurfiad destlus y brawddegau, nag am ddyfnder a bywiogrwydd meddwl; ac fe ddaeth oeredd ei huodledd yn fuan i fod yn ddihareb ymhlith trigolion yr hen oesoedd. Mae ei enw wedi ei anfarwoli i raddau pell trwy iddo gael ei gysylltu ag un o ymddiddanion Platon. Dyrchafwyd cerflun o aer mewn lle amlwg yn Delphi i fod megis yn gofadail am ei goffadwriaeth. Yn ôl y traddodiad, bu fyw am 105 o flynyddoedd neu fwy. Darparwyd gan Wikipedia