Canlyniadau Chwilio - Mariátegui, José Carlos
José Carlos Mariátegui
Ymgyrchydd ac athronydd Marcsaidd ac ysgrifwr o Beriw oedd José Carlos Mariátegui (14 Mehefin 1894 – 16 Ebrill 1930).Ganed i deulu tlawd yn nhref Moquegua yn ne Periw. Dysgodd ei hunan am Farcsiaeth a gweithiodd yn newyddiadurwr tra'n ymgyrchu dros y mudiad llafur ac yn erbyn yr Arlywydd Augusto B. Leguía (1908–12, 1919–30). Wedi i Leguía gipio grym am yr eildro a sefydlu unbennaeth, gorfodwyd i José ffoi i'r Eidal ym 1919. Tra yn Ewrop, dylanwadwyd arno yn gryf gan nifer o feddylwyr ac ymgyrchwyr sosialaidd, gan gynnwys Benedetto Croce, Georges Sorel, Henri Barbusse, Antonio Gramsci, a Maxim Gorky.
Dychwelodd i Lima ym 1923, a rhodd ei gefnogaeth i Alianza Popular Revolucionaria Americana (APRA), dan arweiniad Víctor Raúl Haya de la Torres. Cafwyd rhwyg rhwng Mariátegui a Luis Alberto Sánchez, un o aelodau blaenllaw APRA, a phenderfynodd Mariátegui adael y mudiad ym 1928 a sefydlu Plaid Sosialaidd Periw, a ailenwyd yn Blaid Gomiwnyddol Periw ym 1930. Er iddo ddioddef o barlys, a orfodwyd iddo ddefnyddio cadair olwyn, ymgyrchodd Mariátegui yn frwd drwy annerch gweithwyr a gwerinwyr, sefydlu Cydffederasiwn Cyffredinol Gweithwyr Periw ym 1929, a gwasanaethu yn ysgrifennydd cyffredinol ei blaid, yn ogystal â chyhoeddi ysgrifau a llyfrau ar bynciau gwleidyddol a diwylliannol. Datganodd Mariátegui ei wrthwynebiad i benderfyniaeth economaidd, ac o'r herwydd fe gododd wrychyn y Marcswyr Uniongred y Comintern. Cafodd ei geryddu gan Gynhadledd Pleidiau Comiwnyddol America Ladin ym 1929 am fod yn "boblydd" ac am enwi ei blaid yn sosialaidd yn hytrach na chomiwnyddol, ac o ganlyniad cytunodd i ailenwi'r blaid.
Yn ei gyfrol o ysgrifau ''La escena contemporánea'' (1925), bu'n lladd ar ffasgaeth ac yn dadlau dros rôl y deallusyn i wrthsefyll llywodraethau gormesol. Sefydlodd Mariátegui y cylchgrawn diwylliannol ''Amauta'' (1926–30), a gyhoeddai enghreifftiau o'r ''avant-garde'' yn llên Periw. Sefydlwyd ''indigenismo'' fel mudiad llenyddol gan Mariátegui yn ei gyfrol ''Siete ensayos de interpretación de la realidad peruana'' (1928). Lluniodd Mariátegui ''indigenismo'' ar wahân i ''Indianismo'', sef genre neu arddull sy'n portreadu brodorion yr Amerig mewn ffyrdd dieithr a sentimental, cynrychioliad poblogaidd ohonynt mewn llên y 19g a ddylanwadwyd gan Ramantiaeth yr Ewropeaid. Dadleuodd Mariátegui dros bortreadau cywirach o hanes y brodorion sy'n cydnabod y grymoedd cymdeithasol ac economaidd a fuont yn eu gwastrodi.
Bu farw yn Lima yn 35 oed. Darparwyd gan Wikipedia